Llanbedr: o Gymru i’r Yemen
Taflen gwybodaeth gan Cymdeithas y Cymod a Peace Pledge Union yng Nghymru.
(An English-language version of this briefing can be found here).
Arolwg
Mae Llywodraeth y DU â rhan yn rhyfela Saudi Arabia yn Yemen. Mae yn parhau i werthu arfau i Saudi all gael eu defnyddio yn y rhyfel cartref yn Yemen a hynnyychydig trosflwyddyn ers i’r cytundeb arfau gael ei ystyried ynanghyfreithlon. Maent hefyd wedi caniatau i beilotiaid o Saudi gael eu hyfforddi yn y Fali, Môn, i hedfanymgyrchoedd bomio.
Gyda phrinder lle yn y Fali maetrefniadau ar y gweill, gan ‘Snowdonia Aerospace’, i greu Parth Hedfan Newydd yn Llanbedr, Gwynedd, gyda’r bwriad o hyfforddi mwy o beilotiaid (o RAF Fali ac o dramor) i fomio mewn rhyfeloedd.
Mae Cymdeithas y Cymod a’r Peace Pledge Union yng Nghymru ynbeiriadu’r cylluniau hyn ac yn galw ar Aelodau’r Senedd, AS Westminstera Chynghorwyr Gwynedd i wrthwynebu’r cynlluniau hyn.
Pwyntiau allweddol
• Ystyriaethau moesol: Mae amcangyfrifon5yn awgrymu y gall fod tros 20.000 o bobl gyffredin wedi eu lladd a’u hanafu yn Yemen ers 2015 a bod ‘troseddau yn erbyn y ddynoliaeth’ yn digwydd yno, gyda 16 miliwn o bobl mewn newyn eithafol. Yn 2018 daeth yn amlwg fod 30 o beilotiaid o Saudi wedi eu hyfforddi yn RAF Fali yn ogystal a chefnogaeth Llywodraeth Westminster i luoedd arfog Saudi drwy gytundebau arfau. Mae adroddiad diweddar yn dweud fod 30 arall o beilotiaid wedi eu hyfforddi yn 2019 a bod 78 o weithlu BAE Systems yn gweithio yn Fali –prawf pellach o’r berthynas agos sydd rhwng gwmniau arfau a’r Awdurdodau Militaraidd drwy’r byd. Fe fydd y datblygiad yn Llanbedr – yn ogystal a bod yn annerbyniol ynddo’i hun – yn ein gwneud fel Cymry yn euog o wahardd hawliau dynol sylfaenol i werin Yemen.
Yn ogystal â’r defnydd gan yr RAF, fe fydd cwmniau arfau yn defnyddio’r maes awyr i brofionawyrennau di-beilot (dronau/adar angau). Os bydd Llanbedr yn datblygu i’r cyfeiriad hwn fe fydd yn safle wedi ei neilltuo, tu ôl i honiad o fod yn datblygu dronau i ddefnydd an-filwrol, yn safle galluogi lladd a dinistr mewn gwlad arall.
Yn 2017 buddsoddodd Cyngor Gwynedd £500,000 o arian trethdalwyr ar welliannau isadeileddi Faes Awyr Llanbedr. Mynegodd Cymdeithas y Cymod ofnau ar y pryd ygallai hyn hyrwyddo diddordeb militaraidd yn y maes awyr,ond ymateb y cyngor oedd ‘nad oes sôn am gynlluniau i ddatbglgu arfau/dronau’ar y safle. Mae’n ymddangos bod sail i ofnau Cymdeithas y Cymod.
O safbwynt cefnogaeth ariannol i’r datblygiad a chostau aruthrol un ymarfer ac un hediad awyren fomio, oni fyddai mwy o arian i’r gwasanaeth iechyd a gofal yn nyddiu Cofid 19 yn well defnydd o arian cyhoeddus?
• Ystyriaethau ariannol: Mae Snowdonia Aerospace yn honni y bydd y datblygiad yn dod a 500 o swyddi i’r ardal a chyfrannu £19.5 miliwn i’r economi leol tros 10 mlynedd. Mae Cymdeithas y Cymod wedi gofyn faint o’r swyddi fydd i bobl leolac wedi gofyn am eglurhad i’r addewid o £19.5 miliwn i’r economi leol. Nid does ateb wedi dod i’r ymholiadau pwysig hyn. Yn anffodus heb fanylion a sicrwydd pellach rhaid ystyried yr addewidion gyda phinsied o halen.
Nid oedd sylw wedi ei roi chwaith i effaith y datblygiadhwn ar y diwydiant ymwelwyr yng Ngogledd Cymru, diwydiant sydd yn dioddef yn enbyd oherwydd effeithiau Cofid-19. Mae cymaint o swyddi ar arfordir Ardudwy a Meirionnydd yn dibynnu ar dwristiaeth ac fe fyddai cymaint a 50 o hediadau dyddiol yn siwr o effeithio ar awyrgylch yr ardal (gw. nodiadau isod).
• Ystyriaethau ymyriadau o’r awyr: Mae’r cais gan Snowdonia Aerospace i’r CAA (Civil Aviation Authority ) yn gofyn am gynnydd sylweddol i’r traffig awyr yn Llanbedr. Meddai’r nodiadau gyda’r cais: “Air traffic at Llanbedr currently averages approximately 900 movements per year and the current projection is for between 4,000 and 6,000 movements per year”. Mae Snowdonia Aerospace ynawgrymuuchafrifo 50 hediad y dydd – fe allai’r cyfanswm fod yn lawer mwy – ac y mae hyn yn profi yn eglur mai i bwrpas rhaglen yr RAF y mae’r datblygiad hwn yn Llanbedr.
Ar wahan i’r effaith amgylcheddol (gw. isod) fe fydd y cynnydd hwn mewn ymarferiadau awyrennau yn arwain i lawer mwy ogwynion o Wynedd a Môn oherwydd lefel y sŵn a’i ddychryn. Fe fydd trigolion y ddwy sir yn dioddefllygredd sŵn a llygredd aer er mwyn cefnogi buddiannau masnachol a militaraidd Prydain a Saudi.
• Ystyriaethau Amgylcheddol: Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Ond nid yw’r naill na’r llall wedi gwneud unrhyw ddatganiad ar effeithiau 4,000 yn ychwnegol o hediadau awyrennau milwrol ar eu hymrwymiad.
Argymhellion
• Am y rhesymau a nodir uchod ni chredwn y dylid ehangu unrhyw weithgaredd militaraidd ar faes awyr Llanbedr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn na’r RAF.
• Eiddo Llywodraeth Cymru yw’r maes awyr yn Llanbedr ond y mae ar lês tymor hir i Snowdonia Aerospace. Fe ddylai Llywodraeth Cymru wrthod cefnogaeth i ehangu Parth Awyr Llanbedr a fydd , boed yn union neu yn anuniongyrchol, yn cefnogi hyfforddi peilotiaid awyrlu Saudi Arabia. A hyd yn oed yn fwy na hynny fe ddylai’r Llywodraeth yng Nghaerdydd beidio croesawu a breichiau agored y fasnach arfau iunrhyw ran o Gymru ond yn hytrach, creu swyddi fydd yn defnyddio sgiliau ein pobl i bwrpas mwy creadigola heddychol.
• Mae angen i Gyngor Gwynedd gyfiawnhau i’w pobl y gefnogaeth ariannol i hyfforddiant militaraidd yn Llanbedr a hefyd angen egluro a yw’r addewid o £25 miliwnarian Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru ac arian cronfa breifat, wedi ei ddefnyddio eto. Ac, fel y nodwyd, mae angen egluro sut y gellir cadw’r ymrwymiad carbon, yn wyneb y datblygiad hwn.