Gwybodaeth gan Gymdeithas y Cymod, Forces Watch a’r Peace Pledge Union yng Nghymru.
(Click here for English-language version).
Trosolwg
Mae adroddiad newydd gan Gymdeithas y Cymod, Forces Watch a’r Peace Pledge Union yn archwilio’r pwnco recriwtio milwrol mewn ysgolion yng Nghymru – pwnchynod ddadleuol y gwnaeth Llywodraeth Cymru nifer o ymrwymiadau amdano mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym Mehefin 20151 yn dilyn deiseb gyhoeddus a gyflwynwyd yn 2012. Fel y dengys ein hadroddiad, prin yw’r cynnydd gwirioneddol a wnaed o ran yr ymrwymiadau hynny, tra bo ymweliadau recriwtio milwrol mewn ysgolion yng Nghymru heb ostwng o gwbl.
Gydag etholiadau’r Senedd i’w cynnal ym Mai 2021, dyma gyfle unigryw i lywodraeth nesaf Cymru fabwysiadu’r heriau hyn a nodi’n ddi-amwys statws Cymru fel cenedl o hedd-garwyr na wnaiff adael i’w phlant gael eu targedu’n ddi-gwestiwngan recriwtio milwrol.
Pwyntiau allweddol
• Mae’r gweithgareddau a ddarperir gan y lluoedd arfog mewn ysgolion yn cael eu hystyried ganddynt fel rhan bwysig o’r broses cyn-recriwtio sy’nsianelu pobl ifanc 16eg a 17eg oed at yrfa yn y lluoedd arfog. Nodwyd y berthynas rhwng gweithgareddau’r lluoedd arfog mewn ysgolion a recriwtio gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar HawliauPlant2 a gan bob un o’r pedwar Comisiynydd Plant yn y DG3. Os yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i weithredu Confensiwn y CU ar Hawliau Plant, yna dylai sicrhau cynnydd yn yr oedran recriwtio yn ogystal âchymryd y camau o fewn ei gallu i gyfyngu mynediad di-reolaeth at bobl ifanc ar gyfer gweithgareddau recriwtio.
• Y DG yw’r unig wlad yn Ewrop sy’n recriwtio pobl ifanc 16 oed i’w lluoedd arfog4 – egwyddor y mae dros 70% o drigolion Cymru yn ei gwrthwynebu5. Dangosodd ymchwil academaidd6,7,8 y canlyniadau gwaethaf i blant o ran iechyd / iechyd meddwl o gael eu recriwtio i’r lluoedd arfog.
• Mae’r tactegau hysbysebu a gysylltir â recriwtio plant wedi’u seilioyn amlar bortread camarweiniol ac anghywir o fywyd milwrol9tra bo ymgyrchoedd hysbysebu o’r fath yn cael eu targedu yn aml at drefi a dinasoedd tlotaf y DG10.
•Er bod y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r lluoedd arfog eu hunain yn honni nad ydynt yn cynnal gweithgareddau recriwtio fel y cyfryw mewn ysgolion, awgryma tystiolaeth11,12 mai dull o guddio recriwtio disgyblion yw’r gweithgareddau milwrol mewn gwirionedd. Hyd yn oed os nad yw pobl ifanc yn cael eu recriwtio’n uniongyrchol i’r lluoedd arfog, mae nhw’n dal i gael eu “recriwtio” at agweddau o blaid militariaeth, a hynny’n rhy aml heb glywed lleisiau a dadleuon i’r gwrthwyneb.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn cyflwyno nifer o argymhellion i lywodraeth nesaf Cymru, y byddwn yn gofyn i Aelodau’r Senedd (ac ymgeisyddion yn yr etholiad buan) eu cefnogi, ac un argymhelliad i lywodraeth y DG y galwn ar Aelodau Seneddol i’w gefnogi:
Argymhellion argyfer Llywodraeth Cymru:
1) Dylid defnyddio'r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn er mwyn arwain adolygiad ffurfiol i weithgareddau recriwtio milwrol yn ysgolion Cymru.
2) Dylid rhoi canllawiau i benaethiaid ac athrawon gyrfaoedd mewn perthynas â gwahodd y lluoedd arfog i ysgolion i ystyried eu natur unigryw fel gyrfa a'r angen i annog cyfnewid barn yn agored ac yn onest gyda dysgwyr am eu rôl.
3) Yn unol â'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, dylid annog dysgwyr i fynd at gyflwyniadau ynghylch darpar yrfaoedd, gan gynnwys ymgyrchoedd marchnata milwrol, gyda meddwl agored ac ymchwilgar, gan archwilio'n feirniadol effaith dewisiadau gyrfa posibl ar eu hiechyd a'u lles fel dinasyddion moesol gwybodus Cymru a'r byd.
4) Dylid defnyddio Asesiadau Effaith ar Hawliau Plant i archwilio ymweliadau ag ysgolion a cholegau gan y Lluoedd Arfog er mwyn ymgymryd â gweithgareddau Recriwtio. Dylid ystyried datblygu arolygaeth, rheoliadau a chanllawiau i gefnogi’r asesiadau hyn.
5) Dylai Llywodraeth Cymru ystyried o ddifrif rôl rhaglenni addysg heddwch wrth gefnogi ysgolion er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu yn unigolion iach, hyderus a dinasyddion moesol, gwybodus, a neilltuo rhai adnoddau i gefnogi a datblygu'r rhaglenni hyn yn ysgolion Cymru.
Argymhellion ar gyfer Comisiynydd Plant a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol:
6) Gofynnwn i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Comisiynydd Plant ystyried gweithgareddau recriwtio milwrol mewn ysgolion yng Nghymru fel mater perthnasol i hawliau a lles plant.
Argymhellion ar gyfer y lluoedd arfog:
7) Mae angen i'r lluoedd arfog gyhoeddi data blynyddol ar ymweliadau milwrol ag ysgolion yn rhagweithiol, gan gynnwys data ar ymweliadau unigol ac wedi’i goladu fesul awdurdod lleol, am Gymru gyfan a’r DG. Byddai gwneud hynny yn caniatáu dadansoddiad llawer mwy cadarn o batrwm yr ymweliadau fel y gall fod eglurder ynghylch a yw ymweliadau, er enghraifft, yn cael eu targedu at ardaloedd difreintiedig.
Argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DG:
8) Dylai'r DG godi isafswm oedran recriwtio'r lluoedd arfog i 18 er mwyn diogelu llawer o'r recriwtiaid mwyaf agored i niwed.
1 Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2015) Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ynghylch Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion: adroddiad ar yr ystyriaeth ar ddeiseb, Caerdydd:Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2 UN Committee on the Rights of the Child (2016) UN CRC Committee's Concluding Observations, gwefan Children’s Rights Alliance for England.
3 UK Children’s Commissioners (2016) UK Children's Commissioners recommendations to the UN Committee on the Rights of the Child Examination of the Fifth Periodic Report of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, Children’s Commissioner for England / Children & Young People’s Commissioner Scotland / Comisiynydd Plant Cymru/ Northern Ireland Commissioner for Children and Young People.
4 Child Rights International Network(2020) The British armed forces: why raising the recruitment age would benefit everyone, Llundain: CRIN.
5 ForcesWatch (2018) Public poll on minimum age of armed forces recruitment, gwefan ForcesWatch.
6 Baker, K., Den, M., Graham, B. & Richardson, R. (2014) “A window of vulnerability: impaired fear extinction in adolescence”, Neurobiology of Learning and Memory, cyf. 113, t90–100.
7 Gee, D. (2013) The Last Ambush? Aspects of mental health in the British armed forces, Llundain: ForcesWatch.
8 Abu-Hayyeh R. & Singh, G. (2018) “Adverse health effects of recruiting child soldiers”, BMJ Paediatrics Open.
9 Louise, R. & Sangster, E. (2019) Selling the Military: a critical analysis of contemporary recruitment marketing in the UK, Llundain: ForcesWatch / Medact.
10 Child Rights International Network (2019)Conscription by Poverty? Deprivation and army recruitment in the UK, Llundain: CRIN.
11 Louise, R., Hunter, C. & Zlotowitz, S. (2016) The Recruitment of Children by the UK Armed Forces: a critique from health professionals, Llundain: Medact.
12 Child Rights International Network (2019) Conscription by Poverty? Deprivation and army recruitment in the UK, Llundain: CRIN.